12/04/2013
'Dw i'n Fardd YO, Dwi Jyst ddim yn Gwbod
04/09/2012
Gwneud Meatballs o Bethau
Mae'r cyfweliad yn rhoi prawf i ni:
1) ydw i'n licio Meatballs? (yndw)
2) Rho gylch o amgylch y gadair (OK)
*****
Mae fel cyrraedd Ffatri Siocled Charlie, petai Charlie yn gwneud pensiliau yn hytrach na siocled. Does na ddim llawer o siocled yma i ddweud y gwir, dim ond Dime Bars, ond mae rheiny yn costio 96c.
Mae'r siop yn llawn pensiliau. Rhai bach miniog. Rhai miniog bach. Rhai miniog. Rhai bach. Dwi yn dysgu oddi-wrth taid, a arferai lenwi ei sannau a chrystion, a dwi'n llenwi fy sannau gyda pensiliau. Mae fy migyrnau yn edrych fel dau ddraenog. Dwi'n teimlo'n euog, ond yn cerdded yn goc i gyd, achos mae'r pensiliau yma am ddim, ac os felly, "MR IKEA, dwi'n gwneud dim byd o'i le."
****
Mae'r holl siop yn gweithredu polisi system one way. Mae'r saethau yn pwyntio'r ffordd, yr holl ffordd, o fan cychwyn y siop ger y lle yr arferai'r pensiliau fod cyn i mi eu stwffio i fy sannau i gyd, hyd at y til.
Mewn camgymeriad erchyll, 'dwi'n gadael fy nghlipfwrdd ar y gwely tu ôl i mi. Doedd dim dewis ond ufuddhau i'r saethau, a mynd yn fy mlaen - a gwneud cylch cyfan o amgylch y siop i nôl fy nghlipfwrdd. Dydi hyn ddim yn hawdd. Mae teulu blin yn gwthio troli tuag ataf ar ddeng milltir yr awr, yn lloerig gan nad oes pensiliau ar gael i gofnodi'r hyn maent eisiau ei brynu. Ymlaen â mi, am dair milltir gyfa - heb ddŵr, heb glipfwrdd, a phigau pensiliau yn torri i mewn i groen fy migyrnau. Dwi'n dechrau teimlo fel Iesu Grist - yn cario ffram bren ryw wely ar fy nhefn (am effaith) bron iawn yr holl ffordd at y til. Rhywle yng nghyffiniau'r scented candles dwi'n llewygu. Mae'r holl brofiad wedi bod yn ormod i mi, heb son am orfod delio a'r emosiwn ychwanegol o arogli Christmas Spice ym mis Awst.
***
Dwi'n cael gwared o'r ffram wely a'r pensiliau, ac yn cario ymlaen hefo fy mhererindod, ac o'r diwedd dwi'n cael fy aduno â'm clipfwrdd. Dwi'n chwilio am bensil i sgwennu arno, ond dwi wedi eu gadael i gyd ar lawr wrth ymyl y scented candles. Dwi'n rhoi give up ac yn dringo mewn i'r gwely ac yn mynd i gysgu.
***
Dwi'n amau fod y bosys yn dechrau amau fy mod yn amau eu bod yn amau fy mod wedi bod yn symud y pensiliau o'r bocsys dal pensiliau i fy sannau. Dwi'n gwneud ymdrech arbennig i fod ar fy ymddygiad gorau. Dwi'n archebu extra large portions o meatballs i ginio, ac fel show willing, dwi'n archebu portion maint arferol o meatballs i bwdin. Dwi'n gweiddi "MMM!" yn fodlon wrth ei bwyta. Dylai hyn eu plesio. Pan dwi'n siŵr nad oes neb yn edrych, dwi'n stwffio rhai o'r meatballs i fy sannau.
Rhywle rhwng adran y ceginnau a'r ystafell wely mae fy ngholuddion yn dechrau cwyno. "Ddyliai neb orfod delio â gymaint o gig a hynna ar un go!" meddai fy stumog. Dwi'n cytuno. Mae'r toiledau deg cam y tu ôl i mi - felly does dim byd amdani, ond rhedeg ymlaen - o amgylch y siop gan ddilyn y saethau. Dwi'n rhedeg nerth fy nhraed a pobman yn dechrau newid lliw, a mywyd yn teimlo fel ei fod ar fin dod i ben, dwi bron a ffrwydro. Dwi'n neidio am yr orsedd borslen, ac yn cael y rhyddhad mwyaf erioed. Dwi'n cau fy llygaid ac yn gweiddi, "Aaaaaaah, dyna welliant". Dwi'n ymbalfalu am y papur toiled, ond yn methu dod o hyd iddo. Dwi'n agor fy llygaid, a dyna lle mae'r teulu blin heb bensiliau yn syllu arnaf yn gegagored. Dwi'n eistedd ar doilet adran yr ystafell ymolchi hefo fy nhrowsus o amgylch fy ffêr.
O plis Mr Ikea, plîs ga i job?
23/07/2012
Mai'n debyg i law... Llaw ydi hi!
Dwi'n penderfynu gneud rhywbeth am y peth, a gwneud cais am swydd Dyn Tywydd. Dwi'n meddwl fod genna i'r holl sgiliau sydd ei angen - a llawer llawer mwy, ond mae gen i ddau anfantais:
1) Dwi ddim yn ddyn
2) Dwi ddim yn gwbod dim am y tywydd
Dim bwys. Allith o ddim bod yn anodd iawn, cwbwl sydd ei angen ydi'r lluniau bach o gwmwl a glaw, a 'chydig bach o felcro.
Y job gynta dwi'n i gael ydi dewis y pentrefi a'r trefi sy'n cael eu henwi ar y map. Dwi'n dewis
1) Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwyllllandysiliogogogoch a
2) Plwmp
Yn anffodus mae'r camera yn gorfod zoomio allan gymaint i ffitio Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwyllllandysiliogogogoch ar y sgrin nes nad ydw i ond dot ar y gorwel, a does neb yn gweld y map. Hen dro. Dwi'n cael fy ngwahardd rhag defnyddio'r pentref hwnnw eto.
***********
Yr ail ddiwrnod, dwi'n trio meddwl am thema i'r pentrefi dwi'n ddewis, ond yn methu, ac yn penderfynu dewis pentrefi ar hap:
- Three Cocks
- Fanny street
- Penisarwaun
- Fiddler's Elbow
- Screw Packet Lane
- Pantywacco
*******************
Mae'r dewis enwau ma'n profi yn llawer anoddach na'r disgwyl, felly dwi'n cymryd tudalen o lyfr Derek - a cymryd bore'r trydydd dydd i ffwrdd, gan adael y cyhoedd ar Twitter i enwebu eu pentrefi - llai o hasl. Yn anffodus does gen i mond 1 dilynwr ar Twitter, ac mae hwnnw'n enwebu "Plwmp". O wel, Plwmp amdani eto felly.
Dwi'n cymryd cod liver oil, yn chwythu fy nhrwyn, yn rhoi fy ffôn ar silent. Dwi'n barod.
A dwi'n mynd amdani tro 'ma: mae'r cymylau hefo glaw yn barod, mae'r felcro yn barod, ac mae poblogaeth Plwmp yn dal eu gwynt. Mae'r golau yn llachar, yn ddigon i doddi'r sbectols oddi-ar fy nhrwyn yn llymru i'r llawr. Dwi'n nyrfys.
Deg eiliad cyn i'r rhaglen fynd yn fyw, mae'r cynhyrchydd yn esbonio nad ydyn nhw wedi defnyddio felcro a cardboard cut outs ers 1984. Dwi'n gweiddi "BE??", ond mae'n iawn, meddai'r cynhyrchydd - "mae'n iawn" (felna). Does ond angen i mi bwyntio at y mannau cywir ar y map a darogan y tywydd fel hen wrach, a mi ymddengys y symbolau cywir fel manna o'r nef, meddai'r cynhyrchydd: "Does ond angen i ti bwyntio at y mannau cywir ar y map a darogan y tywydd fel hen wrach, a mi ymddengys y symbolau cywir fel manna o'r nef" (felna).
Erbyn hyn does ond tair eiliad nes y byddwn yn mynd yn fyw, a does gen i ond cyfle i godi dau fys at y cynhyrchydd, a thaflu fy nghwmwl carbod dros fy ysgwydd chwith am lwc cyn i mi ymddangos yn fyw ar setiau teledu'r genedl, sy'n aros yn eiddgar am Bobl y Cwm. [Pobol y Cwm! clywaf chwi ddarllenwyr yn gweiddi! O nage! Atebaf yn chwim.]
"Noswaith dda foneddigion a foneddigesau! Dyma rybudd i bawb sydd ddim eisiau gwybod beth fydd y tywydd fory - mae'r adroddiad hwn yn cynnwys SPOILERS - felly os nad ydych chi eisiau gwybod, trowch y sianel am dri deg eiliad!" Dwi'n gwenu fel prat / Derek (dim bo fi'n awgrymu fod Derek yn prat) am bump eiliad.
Mae Plwmp yn dal i sbio. Mae gweddill Cymru yn troi i'r One Show.
Yna dwi'n dechrau darllen y tywydd, "Mi fydd hi'n glawio fory yn Plwmp..." a dwi'n chwifio fy mreichiau fel melin wynt ac yn pwyntio tua'r map, a BRENSIACH Y BRATIAU does dim map! Dim ond sgrin werdd hyd at y gorwel ac adlewyrchiad o fy ngwyneb gyda'm sbectol yn toddi dros fy nhrwyn. Mae Plwmp wedi diflanu, a Cymru wedi diflannu, dan fôr mawr gwyrdd - fel Cantre'r Gwaelod gynt. Mae hi wedi bod yn bwrw lot yn ddiweddar, ac mae'n wir fy mod wedi treulio lot o amser tu mewn yn chwarae toilet golff ac yn fflyrtio efo fy unig ddilynwr ar Twitter, ond och a gwae - siawns nad ydi'r tirwedd wedi trawsnewid i'r fath raddau nes nad oes dim map? Dim ond môr?
Mae'r cynhyrchydd yn gweiddi "Caria mlaen!" yn fy nghlust. Felly dyna dwi'n neud am y tri deg eiliad. Dwi'n chwifio fy mreichiau fel taswn i'n gwneud cyd-adrodd yn Steddfod yr Urdd, ac yn gweiddi mewn amryw donau a synnau - "MAE hi'n bwrw yn Plwmp, mae hi'n BWRW yn Plwmp, mae hi'n bwrw yn PLWMP?"
Mae'r tri deg eiliad ar ben, a dwi'n saff. "Ath honna'n reit dda, do?" dwi'n holi'r cyhyrchydd. Mae ei wyneb yn biws.
**********
Y diwrnod wedyn, mae fy unig ddilynwr ar Twitter yn fy nad-ddilyn. Yn ôl y sôn rô'n i yn pwyntio tuag at gyfeiriad yr Aifft tra'n trafod y tywydd yn Plwmp, a doedd hynny ddim yn plesio.
Dwi'n mynnu mod i'n cael defnyddio fy symbolau carbod a felcro'r noson honno, a dwi'n treulio'r diwrnod cyfan yn darlunio map o Gymru hefo sialc ar y wal werdd. Dwi'n gwneud Sir Fon chydig bach yn llai, ac yn ymestyn y môr rhyngtha fo a'r tir mawr. Hi hi hi!
Y noson honno dwi'n barod amdani. Cod liver oil. Vitamin C. Sbectol newydd. Polisho fy motymau. Nicar lwcus.
Dwi heb gael ymateb i fy ngalwadau am enwebiadau am enwau llefydd heno ar Twitter yn anffodus, felly dwi'n penderfynu bod yn holl-gynnhwysol.
Tri...Dau...Un...
"Noswaith dda foneddigion a foneddigesau! Dyma rybudd i bawb sydd ddim eisiau gwybod beth fydd y tywydd fory - mae'r adroddiad hwn yn cynnwys SPOILERS - felly os nad ydych chi eisiau gwybod, trowch y sianel am dri deg eiliad!" Dwi'n gwenu fel iâr / Siân Lloyd (dim bo fi'n awgrymu fod Siân Lloyd yn debyg i unrrhyw iâr) am bump eiliad.
"Fory, dros Gymru gyfan o Fôn fach i Fynwy, o Sir Benfro i Ysgol Syr Huw mi fydd hi'n glawio. Glaw glaw glaw. Bwrw bwrw bwrw." A dwi'n sticio fy nghymylau storm bach nesh i dorri allan efo siswrn gynna efo felcro yn sownd i'r wal werdd.
Tri deg eiliad ac mae popeth drosodd.
"Ath hwnna'n iawn do?" medde fi eto wrth y cynhyrchydd, yn ffyddiog tro 'ma mod i taro'r hoelen ar ei phen.
"BLYDI HEL!" Mae'r cyhyrchydd yn gweiddi arna i. "TI'M DI BOD ALLAN HEDDIW O GWBWL?"
"Wel naddo..." dwi'n cyfadde, dwi wedi bod yn rhy brysur yn lliwio dafnau'r glaw'n las hefo creion.
"MAI'N BLYDI BRAF!" Ma'n gweiddi arna i, gan agor y bleinds efo clep.
Dwi'n cael fy nallu gan belydrau 30 gradd yr haul. Ooooo diar. - Mr Tywydd, sgen ti job i fi?
20/02/2012
Ribidirês

'Dw i'n penderfynu gadael creaduriaid y dŵr i edrych ar ôl eu hunain, ac yn crwydro draw at y Betting Farm. Dwi'n pwyso ar y ffens bren yn disgwyl i'r mulod gychwyn rhedeg.
24/11/2011
Naw tan Bump

Mae gan y swyddfa yma bob dim, photocopiwr, peiriant dŵr, planhigion, Blue Tack. ‘Dw i’n cael fy ngoriad fy hun, a rhif y larwm ar ddarn bach o bapur wedi ei argraffu a’i lamineiddio.
“Mae’n rhaid i ti daflu’r rhif ar ôl ei ddysgu, rhag ofn…”
“Rhag ofn be?”
“Ymm, identity fraud?”
‘Dw i’n dyfeisio jingle bach yn fy mhen i gofio’r côd diogelwch, ond mae’r gân yn gorffen ychydig yn fyr, achos dim ond dau rif ydi’r côd. 'Dw i'n gwario punt ar y meter lectrig i shreddio'r côd diogelwch. Ond mae gwastraffu mewn swyddfa yn OK. 'Dw i'n cael torri siâp sgwâr o ganol darn carbod lliwgar, a ddim yn gorfod cychwyn o'r ochrau. Heb i mi sylwi, mae criw o gyd-naw tan bumpwyr wedi casglu o nghwmpas i yn fy ngwylio fi'n torri'r sgwâr. Dwi'n gorffen, ac mae pawb yn clapio.
"Hwre! Un creadigol ydi hon, hwre i'r sgŵar lliwgar! Hwre i wastraffu carbod!"
Dyma eistedd wrth fy nesg i edmygu’r olygfa: desgiau pawb arall. Dwi'n agor yr holl ddroriau gwag o 'nghwmpas, mae yma gymaint o botensial. Mi allwn i wastraffu mwy o bapur drwy argraffu fy ngwaith, a'u storio nhw - yn alphabetical, neu eu grŵpio fesul lliw. Neu mi allwn i guddo potel o gin yma, neu bar o Snikers - mae hyd'noed digon o le yn y filing cabinet yma i anifail anwes, os nad hyd yn oed lle am nap ar brynhawn ddydd Gwener.
Mae'r ffôn yn canu,
"Helo. Head Office yn siarad. Dim ond ffonio i roi gwybod ein bod ni wedi gyrru ebost."
'Dw i'n checkio fy ebyst yn gyffro i gyd. 1 New Message gan Head Office:
Dyma neges i ofyn yn garedig i ti ffonio'r Head Office.
'Dw i'n ffonio'r Head Office.
"Helo Head Office"
"Helô, dyma fi'n ateb yr ebost yn gofyn i mi ffonio...?"
"O helô, diolch am ffonio. Dim ond eisiau gofyn yn garedig i ti yrru ebost i'r Head Office i ni gael gwneud yn siŵr fod fod dy ebost di'n gweithio."
'Dw i'n confiwsd ofnadwy, ac yn penderfynu mynd am nap yn y filing cabinet.
* * * *
Mae'r diwrnod canlynol yn cael ei glustnodi fel diwrnod hyfforddi gwneud coffi. 'Dw i'n mentro sôn yn gwrtais fy mod eisoes yn gwybod sut i wneud coffi.
"Ond mae gwneud coffi mewn Swyddfa yn wahanol! Rhaid i ti wybod sut i wneud coffi ar gyfer pobl bwysig! A cofia fod pobl bwysig sy'n dod i swyddfa yn perthyn i haen uwch yn y gymdeithas na thi a mi. Rhaid i ti hefyd wybod sut mae pawb yn y swyddfa licio eu coffi:
Jen: te peppermint gwan mewn mwg tennau, Bryn: te mefus a mêl mewn mwg sy'n deud 'World's Best Lover', Jamain: te lemon a gadael y teabag i mewn am dri munud"
Ond rhaid i'r hyfforddiant yn dod i ben yn fuan oherwydd ein bod yn sylwi nad oes llaeth yn y ffrij. Mae Grahame yn edrych ar y rota, a darganfod mai fy nhro i oedd hi i brynu llaeth gychwyn yr wythnos.
"Ond doeddwn i ddim wedi fy nghyflogi gychwyn yr wythnos! Dydi hyn ddim yn deg!"
"Dim bwys am hynny" meddai Grahame yn flin. "Os mai dy enw di sydd ar y rota, ti sy'n gyfrifol am brynu'r llaeth. Dim esgus. The rota is always right."
"Ond does neb yn yfed coffi...!"
Ond mae hi'n rhy hwyr, mae Grahame wedi gadael. A 'dw i wedi gwneud fy ngelyn cyntaf yn y Swyddfa. Bob Nadolig o rŵan tan ddiwedd amser, bydd y ddau ohonom yn gweddio na chaiff y naill na’r llall ein gilydd yn y Secret Santa.
* * * *Y diwrnod wedyn dwi wrthi'n polisho'r space bar pan ddaw Jen a'i phen rownd y drws, a gofyn os ydw i eisiau ymuno a nhw mewn cyfarfod.
Cyfarfod! Gwych! I ffwrdd a mi i'r cwpwrdd stationary i arfogi fy hun. 'Dw i'n teimlo fel 'mod i wedi ffeindio stash Barti Ddu. Mae yma ddau focs Quality Streets yn llawn paper clips, wedi ei labelu yn daclus mewn print. Mae yma ddigon o blue tac i chwarae practical joke ar raddfa enfawr, a sticio'r dodrefn i'r to; mae yma ddigon o staplers a staples i daclo Ysbyddaden Bencawr, a digon o sisyrnau i agor siop farbwr. Mae yma feiros ar gyfer pobl llaw dde, a beiros ar gyfer pobl llaw chwith, a beiros ar gyfer pobl heb law o gwbwl. Mae'r selotêps amrywiol fel cylchoedd Sadwrn, ac mae digon o highlighters i liwio'r 1980's unwaith eto.
'Dw i'n eistedd o amgylch y bwrdd hefo deg arall a derbyn agenda. Mae my mhocedi yn llawn post-it notes melyn llachar a phinau bawd, ac mae gen i epill deudwll i lawr fy siwmper. Sylwa'r cadeirydd fod Malcom ar goll. Coda'r ffôn a deialu rhif yr Head Office.
"Helo, Malcom? Ti'n dod i'r cyfarfod? Be? Ti'n rhy brysur? Ond ti heb yrru ymddiheuriad...Iawn, ie...nei di yrru ymddiheuriad swyddogol draw dros ebost plis?"
Caiff y cyfarfod ei ohirio am ddeg munud wrth i'r Cadeirydd ail sgwennu'r agenda i gynnwys Malcom dan y pendawd Ymddiheuriadau. 'Dw i'n rhedeg draw at fy nesg i gael swig o gin ac i fwydo'r tortois yn y filing cabinet.
O'r diwedd, mae'r cyfarfod yn cychwyn. Mae hanner awr cyntaf y cyfarfod yn cynnwys trafod y cyfarfod diwethaf, sef cyfarfod a gynhaliwyd i drefnu pryd y gellid trefnu'r cyfarfod yma. Mae hanner awr ola'r cyfarfod yn cynnwys trafod pryd y gellid trefnu'r cyfarfod nesaf. Edrychaf yn fy nyddiadur - sy'n wag ar hyn o bryd, felly mae'r drafodaeth yn ddiflas - mae fel gwneud jig-so un darn.
Mae fy mhrofiad cyntaf o gyfarfod yn ddiflas iawn. 'Dw i'n penderfynu mynd i wneud paned i godi fy nghalon. Ond mae hynny'n profi'n anodd iawn, dwi wedi anghofio'r côd i fynd drwy'r drws, ac mae theme tune The A-Team yn dod i mhen i bob tro 'dw i'n ceisio cofio fy jingle. O'r diwedd ar ôl hanner awr o ganu digyfeiriad, 'dwi'n llwyddo i agor y drws. Ond siom enfawr sy'n fy nisgwyl - does 'na'm llaeth.
O plîs Alan Sugar, sgen ti job i fi?
25/01/2011
Ar y Meic

Wythnos yn ddiweddarach a 'dw i'n gorfod gwrthod shiffts gwerthfawr yn y dafarn leol i fynd i weld gig olaf un Meic Stevens... yng Nghaerdydd.
Fis yn ddiweddarach, a dwi fod adre yn dathlu'r Nadolig, ond dwi'n penderfynu dreifio 100 milltir i Gaerfyrddin i weld gig olaf arall Meic Stevens.
Mae o on form go iawn. Mae o'n wych. Mae o'n canu ei holl glasuron. Mae o'n chwerthin, mae o'n anghofio ei eiriau, mae o'n insultio Huw Ceredig. Dwi mor falch mod i wedi gneud cymaint o ymdrech i weld gig olaf un Meic Stevens. Mi alla i ddeud wrth blant fy mhlant fy mod i yno, a fod gen i lun i brofi'r peth.
Hwyl fawr 'rhen arwr.
Dwi'n gweithio yn y dafarn leol. Dwi'n cael neges destun ar fy ffôn lôn yn gofyn lle ydw i. Mae'r negeswr ym Mhwllheli - yn gig olaf Meic Stevens. Go iawn y tro yma.
------------
Mae misoedd wedi pasio bellach, mae 'rhen Meic yn bownd o fod yng Nghanada erbyn hyn?
Dwi dal yn ddi-waith. Dwi'n penderfynu cychwyn tribute act i Meic Stevens.
Dwi'n hysbysebu fy hun fel dynwaredwr. Dwi'n gwneud posteri, ac yn eu sticio i goed hefo pinnau bawd.
O fewn wythnos, mae gen booking.
Dwi'n cadarnhau - gan ofyn am daliad o flaen llaw. Am y tro cyntaf ers erioed, mae gen i bres yn y banc, grêt.
Mae noson y gig yn cyrraedd, a dydw i ddim yn mynd. Mae'r trefnwr yn wyllt gacwn. Ond dwi'n esbonio fy mod i yn trio cadw'r act mor debyg â phosib at y gwreiddiol, ac felly mod i ddim yn gallu sicrhau fy mod i am droi fyny i bob un gig. Mae'r trefnwr yn dal i fod yn flin, ond all o ddim gwneud dim byd am y peth. Mae o'n gwybod mai fi sydd yn iawn.
Yr ail gig, dwi'n penderfynu mynd. Dwi'n mynd a'm sbectols haul a'm potel o win hefo fi. Dwi'n sefyll o flaen y gynulleidfa hefo hen gitar yn rhegi ar y dyn sain. Mae o'n taflu glas peint at fy mhen. Dwi'n dycio. Dwi'n sylwi mai nid dyn sain ydio - dwi'n chwarae gig acwstic, a dwi heb blygio'r gitâr mewn i ddim byd. Old habits die hard. Dwi'n camdreiglo fy ffordd drwy dameidiau o ganeuon gwych. Dwi'n cael llond bol a mynd adre cyn diwedd y set.
Dwi'n cael gwahoddiad i chwarae yn gig nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod ym Maes B. Mae nhw'n deud mod i ddim yn headlinio. Dwi'n gandryll. Sut ar wyneb y ddaear all unrhyw un chwarae ar ôl Meic Stevens? "Dim Meic Stevens wyt ti", medde nhw. Nage...? Erbyn hyn dwi wedi cychwyn gwisgo'r wig brith i ngwely, a gwisgo sbectols haul hyd yn oed yn y nos.
Dwi'n cael strancs, a gwrthod chwarae hyd nes iddyn nhw fy ngadael i i headlinio. Mae nhw'n deud fod ganddyn nhw rhywun gwell a phwysicach i headlinio'r noson.
"Pwy?" medde fi yn gandryll.
"Allwn ni ddim dweud" meddw nhw. "Mae o'n sypreis."
Y blydi Moniars fyddan nhw, bownd o fod. Neu Huw Chiswell.
Ond ar ôl bod yn styfnig am ychydig ddyddiau dwi'n rhoi give up. Dwi angen y pres. Dwi'n cytuno i chwarae ym Maes B.
Maes B. Nos Sadwrn. Mae Gwibdaith Hen Frân newydd orffen canu am eu wilis.
Dwi'n camu ar y llwyfan. Dwi'n canu. Dwi'n swnio fel Meic Stevens. Dwi'n dda. Dwi'n gwneud ymdrech i blesio'r gynulleidfa. Erbyn y diwedd, dwi'n dechrau teimlo fel mai fi ydi Meic Stevens. Mae'r gynulleidfa yn ymateb yn dda. Yn gweiddi "Bobby Sands! Merch o'r Ffatri Wlan!" Dwi'n eu hanwybyddu nhw.Dwi'n insultio Huw Ceredig, am laff. Dwi'n gorffen y set.
Dwi'n aros yn eiddgar i weld pwy ar wyneb y ddaear allai fod headlinio ar ôl y sioe wych 'dw i newydd ei rhoi i'r dorf. Mae'r golau yn mynd i lawr, mae ffigwr bychan yn cerdded yn fusgrell ar y llwyfan. Mae'r dorf yn mynd yn boncyrs. Dwi erioed wedi clywed y ffasiwn gymeradwyaeth i neb. Dwi'n craffu drwy'r tywyllwch, ac mae'r golau yn codi...
MEIC STEVENS ydio! Myn cacen i, RO'N I'N MEDDWL DY FOD DI YNG NGHANADA!
01/12/2010
I Ogof y Ddraig

So, dwi'n penderfynu mynd ar Dragon's Den. Dwi'n desperate am bres, a dwisho neud ffrindie efo Peter Jones a Theo.
Dwi'n sefyll yn dal o flaen y Dreigiau. Dwi'n ffyddiog.
'Pnawn da, James, Duncan, Theo, Peter.
Mae Deborah Meaden yn edrych arna i, ac yn codi ei hael, sy'n edrych fel lindys yn trio dianc.
Dwi'n syllu ar Deborah Meaden nes fod fy ael innau bron a chyrraedd fy nghlust. Deni yn cael stand off. Nage, ael-off. Eyebrow-off. Mae'n para dau funud cyfa. Mae pobman yn dawel, mae na densiwn. Mae Theo yn peswch. Mae James yn ffidlan hefo'i dei.
Mae'n llygaid i'n dechre llosgi. Yn sydyn, dwi'n blincio, a mae'r ael i'n disgyn fel Gilliam McKeith yn y jyngl. DARIA. Mae Deborah wedi ennill yr ael-off, yn deg ac yn sgwar.
Pnawn da, James, Duncan, Theo, Peter... Deborah.
Mae ael Deborah yn disgyn mewn bodlondeb.
Fi - I'm here today to ask you for one hundred thousand pounds for twenty per cent of my company.
Theo - Ok Lili, what is your company?
Fi - It's a new thing. You stick it on your wall, stick a battery in, and it opens tins of baked beans for you. Automatically.
Theo - Right, so you claim to have invented the electric tin opener?
Fi - Yes.
Theo - It's been done before.
Not good. Doni ddim yn disgwyl hyn. Dwi isho gofyn lle mae'r dechnoleg anhygoel hyn ar gael. Dwi isho un ar wal fy gegin. Ond dwi'n penderfynu efallai na fyddai hyn yn mynd i lawr yn gret.
Fi - No, Theo, it's definitely different and new. It can open the tins without you touching the tin.
James - Yes, Lili, that has also been invented.
Fi - Yes, but you don't even have to get the tin out of the cupboard. You just have to shout BEANS, and the machine does it all for you.
Deborah - That's amazing! I'll offer you one hundred thousand pounds for thirty per cent of your company.
Fi - Definitely not, Deborah. I demand that you give me one hundred thousand pounds for forty per cent of the company.
Mae ael Deborah yn codi eto, fel bod na gortyn anweledig yn ei thynnu i fyny. Mae rhywbeth yn ei gwyneb yn awgrymu nad ydw i yn dallt y jargon per cent 'ma. Ond dydw i ddim am ddangos ei bod hi'n iawn. Dwi'n codi fy ael innau yn uwch na'i hael hi, nes fod tyllau fy nhrwyn yn lledu mor fawr ac orenau.
Duncan - Lili, you've told us of this amazing invention. Now, could you show us this thing in action?
Fi - Yes of course, that is why I'm here. Everyone - close your eyes.
Mae'r Dreigiau yn cau eu llygaid. Dwi yn rhedeg at y bwrdd bach sy'n dal y wad o cash, yn ei stwffio fo lawr fy nghrys, ac yn gweiddi - James, Duncan, Theo, Peter, Deborah - I'M OUT (of here).
O plis Ddreigiau, sgenoch chi job i fi?




