12/04/2013

'Dw i'n Fardd YO, Dwi Jyst ddim yn Gwbod




So dwi'n penderfynu trio gyrfa fel bardd. Y peth cynta dwi'n neud ydi mynd allan i brynu stash o win coch. Yna dwi'n picio nôl i Ikea i ddwyn pensil. Sorted.

Y peth da am y swydd yma ydi mod i'n gallu aros yn fy ngwely am rhan fwyaf o'r dydd, a'r nos. Y peth gwael ydi fod fy nghwsg i'n cael ei darfu gan byliau erchyll o ysbrydoliaeth. Dwi'n sylwi ar ôl chydig ddyddiau o hyn mai nid ysbrydoliaeth ydi o, ond dŵr poeth oherwydd yr holl win coch.

Dwi'n cael sbin ar yr geiriadur odlau yn fy ngwely, ond dwi'm yn ddallt o'n iawn. Dwi'n penderfynu sgwennu cerdd am y ci. Ond dwi methu ffeindio 'ci' yn y geiriadur yma – pam fod yr holl eiriau yn cychwyn hefo llafariad, Carol? Ar ôl chwilio am chydig oriau, dwi'n ildio, a phenderfynu sgwennu am aderyn yn lle.

Dwi'n picio i'r pyb lleol i chwilio am yr awen. Drwy gyd-ddigwyddiad llwyr dwi'n taro mewn i rhywun o'r enw Awen. Ond dydi hi ddim yn rhy gyfeillgar, ac yn sicr ddim yn haeddu bod yn destun cerdd, er fod i henw'n cychwyn efo llafariad, Carol. Dwi'n mynd o amgylch y byrddau yn blasu diod pawb fel bo fi'n cymryd rhan yn y New York Wine Tasting Competition. 'Dw i'n dechrau hel ansoddeiriau, "mafon dualgar, afalaidd, seidar blaci, rymiol, wisgiaidd..." dwi'n teimlo cerdd yn ffurfio. Mae'r barman yn dod ata i ac yn trio fy hel i allan. Dwi'n ei waldio ar ei ben hefo Clywed Cynghanedd Myrddin ap Dafydd. Mae tri bownsar, Hicyn, Siencyn a Siac yn dod i'm lluchio allan i'r stryd. Dwi'n penlinio yn y baw a'r glaw tu allan yn edrych drwy'r ffenestr. Mae'r Awen tu mewn, a finnau ar y tu allan.

Dwi'n penderfynu studio rhai o hoff feirdd y genedl, beth oedd ganddyn nhw na sgena i ddim? Mae Dafydd ap Gwilym i'w weld yn un poblogaidd, onid fo oedd yn actio Jabas Jones 'stalwm? Dwi'n darganfod fod Waldo, Gwenallt, Iolo Morganwg ac eraill yn heddychwyr. Dwi'n cymryd pluen o'u het nhw, yn teimlo'n euog, ac yn mynd nôl i'r pyb i ymddiheuro wrth y barman am ei hitio hefo Clywed Cynghanedd. Ymddengys fel ei fod â noson rydd, a felly caf lonydd gan y barman newydd sy'n anymwybodol o'm pererindod ansoddeiriau wrth glera o amgylch y byrddau. "Mmm! Salt and Vinegary, guinnessaidd, portiog. Haia Awen!". If Carlsberg made poets...

Y noson ganlynol 'dw i'n cystadlu yn fy stomp gyntaf un. Dwi'n rhoi fy llais darllen barddoniaeth gorau un ymlaen ac yn trio ffitio cymaint o bynciau tabŵs a rhegfeydd â phosib i mewn i dri munud. Dwi'n cael fy ngwahardd am fod yn anwreiddiol. 

Dwi di cyrraedd pen fy nhenyn, does dim yn tycio, dim hydnoed gwersi Dysgu Cynganeddu (@Cynganeddu) ar Twitter bob nos Fawrth. Dwi'n ildio, ac yn ymuno â gwersi Menter Caerdydd gyda'r Prifarth Rhys Iorwerth a'r Babi Arth, Osian Corrach. Mae Rhys yn gofyn i mi os ydw i awydd trio'r groes o gyswllt. Dwi'n ei waldio ar ei ben hefo Clywed Cynghanedd am fod mor hy a di-chwaeth.

Dwi'n dipresd. Dwi methu odli, di hyn ddim yn ffyni, dwi methu cysgi, dwi'n chwilio am swyddi, dim bardd di'r job i mi, dwi dal methu odli, na chynganeddi, er gwaetha'r holl hyfforddi, a dwi di colli fy mhensil i...

So dwi'n penderfynu yfed y stash o win coch i gyd. Dwi'm yn cofio lot o'r tridie nesaf. Mae gen i gof o fod yn Ikea hefo cannoedd o bensiliau wedi eu stwffio yn fy sannau, ond efallai mai atgof o'r stori ddiwethaf oedd honno. Dwi'n dod at fy nghoed yn araf-deg, a ma gena i flas cas yn fy ngheg, mae gen i atgof o freuddwyd - o sgwennu cerdd epig fil o linellau, a'i gyrru dros ebost at yr Eisteddfod. Mae gen i bensiliau yn fy ngwallt. Mae'r ci wedi rhedeg i ffwrdd.

Mis Awst. Dwi yn y Pafiliwn Pinc. Mae'r seremoni Cadeirio wedi cychwyn. Mae'r beirniad yn sefyll ac yn traddodi'r feirniadaeth,

"Mae'r gerdd anhygoel hon yn wahanol i'r un gerdd y darllenais erioed o'r blaen, mae'n llawn eironi, mae fel petai'r bardd profiadol yn gwneud hwyl ar ben ei broffesiwn ei hun, ac mae'n ddirgelwch gen i sut ar wyneb daear y llwyddodd y bardd i 'sgwennu cerdd yn defnyddio dim ond geiriau yn cychwyn â llafariaid, Carol. Mae'n bleser gen i felly, i gyhoeddi mai bardd cadeiriol Eisteddfod Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013 yw, JABAS JONES"

Wel myn cacen i. 

Plis Mr Archdderwydd, sgen ti job i mi?