29/10/2014

Gordon Clown

Dwi’n frown, brown lliw cachu. Dydi hynny ddim yn helpu fy nelwedd, yn enwedig a finnau’n chwilio am job. Dwi’n penderfynu trio bod yn liwiau eraill i weld be ddigwyddith.

Dydi’r lliw llwyd ddim yn llwyddiannus. Mae pawb yn meddwl fy mod yn efaill i Elfyn, ac yn dechrau cyfeirio ataf fel “yr un heb fwstash”. Ond dydw i ddim isho cael fy adnabod fel yr un heb ddim byd. Ooo arhoswch! Gramadeg gwallus gyda fy negyddu dwbl yn y frawddeg ddiwetha, a does dim byd negyddol amdana i bobl, heb sôn am fod yn negyddol ddwywaith.


Nagoes wir.

Dwi’n trio gwyrdd. Oleia mae fy enwau bellach yn cyflythrennu. Mae hynny’n gwneud i mi deimlo fel un o’r cynfeirdd, bydd raid i mi sgwennu cerdd. Be sy’n odli gyda Gordon Grîn...?

Yn anffodus cyn i mi ddod o hyd i fy odliadur, dwi’n cael llythyr gan y Blaid Werdd yn cwyno am fy enw newydd. Mae nhw wedi trademarkio’r lliw gwyrdd medde nhw, a dydyn nhw ddim yn dymuno ei rannu â mi. I ddweud y gwir dydyn nhw ddim yn dymuno rhannu’r un blaned a mi chwaith, ac maent wedi rhoi fy enw ar y rhestr fer i sefydlu gwladfa ar y blaned Mawrth.

Mae’n rhaid i mi newid fy enw, rhag ofn i mi orfod mynd – alla i ddim mynd, dwi ofn uchder.

Bron iawn i mi ystyried melyn. Ond ar hyn o bryd yr unig beth mwy chwerthinllyd na Gordon Brown ydi’r Lib Dems, felly dwi'n penderfynu peidio.



Dwi’n mynd am las. Rŵan bod Alex wedi cyhoeddi ei ymddiswyddiad dwi’n meddwl yn siŵr fod glas up for grabs. Dwi’n licio glas, ma’n mynd yn reit dda, neud fi deimlo fel Albanwr gwerth ei halen. I ddeud y gwir, dwi’n meddwl y bydde’n well i fi sefydlu fy mherchnogaeth o’r lliw, cyn i Nicola fynd i hwyliau.

Dwi’n peintio fy ngwyneb fel Mel Gibson, ac yn prynu bwyell. Dwi’n torri fy ngwallt yn hir a blingo a bwyta cwningen i swper, heb ei choginio. Fflwffen druan – mae Sarah yn wallgo.



Ar ôl wythnos o fod yn las, dwi’n teimlo fel dyn newydd, dwi’n teimlo fel arwr, fel arweinydd – dwi’n penderfynu mai fi fydde’r boi i arwain yr Alban i fuddugoliaeth... i ANNIBYNIAETH! 

Dwi’n cerdded bob cam i San Steffan, ac yn curo’r drws gyda fy mwyell, ac yn gorchymyn fod David Cameron yn dod i dalu ei wrogaeth i frenin newydd yr Alban. Mae’r swyddog diogelwch yn gofyn am fy enw, iddo gael pasio’r neges yn ei blaen. Dwi’n nodi fy enw newydd, yn gwrtais. Ac mae’n edrych ar ei gyfrifiadur am sbel, cyn codi ei ben yn amheus - “Cordon Bleu?”



Dwi’n penderfynu ar ddu. Ond o fewn munud i gyhoeddi’r peth ar Twitter, mae ryw dwll tin o wyddonydd wedi ymateb yn mynnu nad ydi du yn liw, ac o ganlyniad dydw i ddim yn bodoli.

Wel dydi hynny ddim yn neud synwyr, meddwn i, dwi YN bodoli.

Nagwyt ddim, medde’r gwyddonydd. Mae gen i ddoethuriaeth – allen i brofi nad wyt ti’n bodoli cyn i ddweud y gair hippopotamus dair gwaith.

Ond beth sy’n fy ngwahaniaethu i oddi wrth Cilla Black a Sirius Black o’r nofel Harry Potter? Dwi’n gofyn.

Dydi Sirius Black ddim yn bodoli chwaith, cymeriad ffuglenol ydio, ac mae o wedi marw yn y nofel. Felly dydio ddim yn bodoli ddwywaith, syn golygu fod o’n sicr ddim yn bodoli, o gwbwl, medde’r gwyddonydd.

Ac enw go iawn Cilla Black ydi Cilla White, felly mae’r gwyn yn canslo’r du, ac felly mae hi YN bodoli medde’r gwyddonydd.

Dwi ddim yn dallt beth sy’n digwydd, mae’r gwyddonydd yma’n llawer rhy glyfar i fi ei ddallt. Beth bynnag - yn y cyfamser mae Nigel Farage wedi cychwyn deiseb i gael fy ngwared o’r wlad gan fy mod yn ddu.

Dwi’n penderfynu cael gwared o’m cyfenw yn reit sydyn. I ddeud y gwir, does dim angen cyfenw arna i o gwbwl! – mi wnaiff Gordon y tro siŵr.

Cher. Madonna. Prince. Duw. Gordon.

Perffaith! Dwi’n tollti jin a thonic bach i mi fy hun – iechyd da Gordon!

O plîs Brydain, ga i fod yn wleidydd eto – sgen rhywun job i fi?