23/07/2012

Mai'n debyg i law... Llaw ydi hi!

Ma Cymru wedi cal llond bol ar yr haf diffygiol 'ma 'da ni'n i gal. Dani wedi trio ei yrru nôl i le ddoth o, ond mae 'na rhywun digartref wedi dwyn y bocs i gysgodi rhag y glaw, a 'da ni wedi colli'r recepit.



Dwi'n penderfynu gneud rhywbeth am y peth, a gwneud cais am swydd Dyn Tywydd. Dwi'n meddwl fod genna i'r holl sgiliau sydd ei angen - a llawer llawer mwy, ond mae gen i ddau anfantais:
1) Dwi ddim yn ddyn
2) Dwi ddim yn gwbod dim am y tywydd

Dim bwys. Allith o ddim bod yn anodd iawn, cwbwl sydd ei angen ydi'r lluniau bach o gwmwl a glaw, a 'chydig bach o felcro.

Y job gynta dwi'n i gael ydi dewis y pentrefi a'r trefi sy'n cael eu henwi ar y map. Dwi'n dewis
1) Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwyllllandysiliogogogoch a
2) Plwmp

Yn anffodus mae'r camera yn gorfod zoomio allan gymaint i ffitio Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwyllllandysiliogogogoch ar y sgrin nes nad ydw i ond dot ar y gorwel, a does neb yn gweld y map. Hen dro. Dwi'n cael fy ngwahardd rhag defnyddio'r pentref hwnnw eto.


***********


Yr ail ddiwrnod, dwi'n trio meddwl am thema i'r pentrefi dwi'n ddewis, ond yn methu, ac yn penderfynu dewis pentrefi ar hap:

  • Three Cocks
  • Fanny street
  • Penisarwaun
  • Fiddler's Elbow
  • Screw Packet Lane
  • Pantywacco
Dwi'n cal row gan fy mosys yn S4C am ddewis gymaint o enwau Saesneg.

*******************

Mae'r dewis enwau ma'n profi yn llawer anoddach na'r disgwyl, felly dwi'n cymryd tudalen o lyfr Derek  - a cymryd bore'r trydydd dydd i ffwrdd, gan adael y cyhoedd ar Twitter i enwebu eu pentrefi - llai o hasl. Yn anffodus does gen i mond 1 dilynwr ar Twitter, ac mae hwnnw'n enwebu "Plwmp". O wel, Plwmp amdani eto felly.

Dwi'n cymryd cod liver oil, yn chwythu fy nhrwyn, yn rhoi fy ffôn ar silent. Dwi'n barod.

A dwi'n mynd amdani tro 'ma: mae'r cymylau hefo glaw yn barod, mae'r felcro yn barod, ac mae poblogaeth Plwmp yn dal eu gwynt. Mae'r golau yn llachar, yn ddigon i doddi'r sbectols oddi-ar fy nhrwyn yn llymru i'r llawr. Dwi'n nyrfys.

Deg eiliad cyn i'r rhaglen fynd yn fyw, mae'r cynhyrchydd yn esbonio nad ydyn nhw wedi defnyddio felcro a cardboard cut outs ers 1984. Dwi'n gweiddi "BE??", ond mae'n iawn, meddai'r cynhyrchydd - "mae'n iawn" (felna). Does ond angen i mi bwyntio at y mannau cywir ar y map a darogan y tywydd fel hen wrach, a mi ymddengys y symbolau cywir fel manna o'r nef, meddai'r cynhyrchydd: "Does ond angen i ti bwyntio at y mannau cywir ar y map a darogan y tywydd fel hen wrach, a mi ymddengys y symbolau cywir fel manna o'r nef" (felna).


Erbyn hyn does ond tair eiliad nes y byddwn yn mynd yn fyw, a does gen i ond cyfle i godi dau fys at y cynhyrchydd, a thaflu fy nghwmwl carbod dros fy ysgwydd chwith am lwc cyn i mi ymddangos yn fyw ar setiau teledu'r genedl, sy'n aros yn eiddgar am Bobl y Cwm. [Pobol y Cwm! clywaf chwi ddarllenwyr yn gweiddi! O nage! Atebaf yn chwim.]






"Noswaith dda foneddigion a foneddigesau! Dyma rybudd i bawb sydd ddim eisiau gwybod beth fydd y tywydd fory - mae'r adroddiad hwn yn cynnwys SPOILERS - felly os nad ydych chi eisiau gwybod, trowch y sianel am dri deg eiliad!" Dwi'n gwenu fel prat / Derek (dim bo fi'n awgrymu fod Derek yn prat) am bump eiliad.


Mae Plwmp yn dal i sbio. Mae gweddill Cymru yn troi i'r One Show. 


Yna dwi'n dechrau darllen y tywydd, "Mi fydd hi'n glawio fory yn Plwmp..." a dwi'n chwifio fy mreichiau fel melin wynt ac yn pwyntio tua'r map, a BRENSIACH Y BRATIAU does dim map! Dim ond sgrin werdd hyd at y gorwel ac adlewyrchiad o fy ngwyneb gyda'm sbectol yn toddi dros fy nhrwyn. Mae Plwmp wedi diflanu, a Cymru wedi diflannu, dan fôr mawr gwyrdd - fel Cantre'r Gwaelod gynt. Mae hi wedi bod yn bwrw lot yn ddiweddar, ac mae'n wir fy mod wedi treulio lot o amser tu mewn yn chwarae toilet golff ac yn fflyrtio efo fy unig ddilynwr ar Twitter, ond och a gwae - siawns nad ydi'r tirwedd wedi trawsnewid i'r fath raddau nes nad oes dim map? Dim ond môr?


Mae'r cynhyrchydd yn gweiddi "Caria mlaen!" yn fy nghlust. Felly dyna dwi'n neud am y tri deg eiliad. Dwi'n chwifio fy mreichiau fel taswn i'n gwneud cyd-adrodd yn Steddfod yr Urdd, ac yn gweiddi mewn amryw donau a synnau - "MAE hi'n bwrw yn Plwmp, mae hi'n BWRW yn Plwmp, mae hi'n bwrw yn PLWMP?"

Mae'r tri deg eiliad ar ben, a dwi'n saff. "Ath honna'n reit dda, do?" dwi'n holi'r cyhyrchydd. Mae ei wyneb yn biws.

**********
Y diwrnod wedyn, mae fy unig ddilynwr ar Twitter yn fy nad-ddilyn. Yn ôl y sôn rô'n i yn pwyntio tuag at gyfeiriad yr Aifft tra'n trafod y tywydd yn Plwmp, a doedd hynny ddim yn plesio.



Dwi'n mynnu mod i'n cael defnyddio fy symbolau carbod a felcro'r noson honno, a dwi'n treulio'r diwrnod cyfan yn darlunio map o Gymru hefo sialc ar y wal werdd. Dwi'n gwneud Sir Fon chydig bach yn llai, ac yn ymestyn y môr rhyngtha fo a'r tir mawr. Hi hi hi!

Y noson honno dwi'n barod amdani. Cod liver oil. Vitamin C. Sbectol newydd. Polisho fy motymau. Nicar lwcus.

Dwi heb gael ymateb i fy ngalwadau am enwebiadau am enwau llefydd heno ar Twitter yn anffodus, felly dwi'n penderfynu bod yn holl-gynnhwysol.

Tri...Dau...Un...

"Noswaith dda foneddigion a foneddigesau! Dyma rybudd i bawb sydd ddim eisiau gwybod beth fydd y tywydd fory - mae'r adroddiad hwn yn cynnwys SPOILERS - felly os nad ydych chi eisiau gwybod, trowch y sianel am dri deg eiliad!" Dwi'n gwenu fel iâr / Siân Lloyd (dim bo fi'n awgrymu fod Siân Lloyd yn debyg i unrrhyw iâr) am bump eiliad.

"Fory, dros Gymru gyfan o Fôn fach i Fynwy, o Sir Benfro i Ysgol Syr Huw mi fydd hi'n glawio. Glaw glaw glaw. Bwrw bwrw bwrw." A dwi'n sticio fy nghymylau storm bach nesh i dorri allan efo siswrn gynna efo felcro yn sownd i'r wal werdd.

Tri deg eiliad ac mae popeth drosodd.



"Ath hwnna'n iawn do?" medde fi eto wrth y cynhyrchydd, yn ffyddiog tro 'ma mod i taro'r hoelen ar ei phen.

"BLYDI HEL!" Mae'r cyhyrchydd yn gweiddi arna i. "TI'M DI BOD ALLAN HEDDIW O GWBWL?"

"Wel naddo..." dwi'n cyfadde, dwi wedi bod yn rhy brysur yn lliwio dafnau'r glaw'n las hefo creion.

"MAI'N BLYDI BRAF!" Ma'n gweiddi arna i, gan agor y bleinds efo clep.

Dwi'n cael fy nallu gan belydrau 30 gradd yr haul. Ooooo diar. - Mr Tywydd, sgen ti job i fi?