24/11/2011

Naw tan Bump

So 'dw i'n cymryd job mewn Swyddfa. 'Mae'r holl hwrio entrepreneuraidd, a'r oriau ansefydlog dros yr wythnosau diwetha yn golygu nad oes gen i fywyd cymdeithasol. Doedd gen i'm bywyd cymdeithasol cyn hynny chwaith, ond stori arall ydi honno.

Mae gan y swyddfa yma bob dim, photocopiwr, peiriant dŵr, planhigion, Blue Tack. ‘Dw i’n cael fy ngoriad fy hun, a rhif y larwm ar ddarn bach o bapur wedi ei argraffu a’i lamineiddio.

“Mae’n rhaid i ti daflu’r rhif ar ôl ei ddysgu, rhag ofn…”

“Rhag ofn be?”

“Ymm, identity fraud?”

‘Dw i’n dyfeisio jingle bach yn fy mhen i gofio’r côd diogelwch, ond mae’r gân yn gorffen ychydig yn fyr, achos dim ond dau rif ydi’r côd. 'Dw i'n gwario punt ar y meter lectrig i shreddio'r côd diogelwch. Ond mae gwastraffu mewn swyddfa yn OK. 'Dw i'n cael torri siâp sgwâr o ganol darn carbod lliwgar, a ddim yn gorfod cychwyn o'r ochrau. Heb i mi sylwi, mae criw o gyd-naw tan bumpwyr wedi casglu o nghwmpas i yn fy ngwylio fi'n torri'r sgwâr. Dwi'n gorffen, ac mae pawb yn clapio.

"Hwre! Un creadigol ydi hon, hwre i'r sgŵar lliwgar! Hwre i wastraffu carbod!"

Dyma eistedd wrth fy nesg i edmygu’r olygfa: desgiau pawb arall. Dwi'n agor yr holl ddroriau gwag o 'nghwmpas, mae yma gymaint o botensial. Mi allwn i wastraffu mwy o bapur drwy argraffu fy ngwaith, a'u storio nhw - yn alphabetical, neu eu grŵpio fesul lliw. Neu mi allwn i guddo potel o gin yma, neu bar o Snikers - mae hyd'noed digon o le yn y filing cabinet yma i anifail anwes, os nad hyd yn oed lle am nap ar brynhawn ddydd Gwener.

Mae'r ffôn yn canu,

"Helo. Head Office yn siarad. Dim ond ffonio i roi gwybod ein bod ni wedi gyrru ebost."

'Dw i'n checkio fy ebyst yn gyffro i gyd. 1 New Message gan Head Office:

Dyma neges i ofyn yn garedig i ti ffonio'r Head Office.

'Dw i'n ffonio'r Head Office.

"Helo Head Office"

"Helô, dyma fi'n ateb yr ebost yn gofyn i mi ffonio...?"

"O helô, diolch am ffonio. Dim ond eisiau gofyn yn garedig i ti yrru ebost i'r Head Office i ni gael gwneud yn siŵr fod fod dy ebost di'n gweithio."

'Dw i'n confiwsd ofnadwy, ac yn penderfynu mynd am nap yn y filing cabinet.

* * * *

Mae'r diwrnod canlynol yn cael ei glustnodi fel diwrnod hyfforddi gwneud coffi. 'Dw i'n mentro sôn yn gwrtais fy mod eisoes yn gwybod sut i wneud coffi.

"Ond mae gwneud coffi mewn Swyddfa yn wahanol! Rhaid i ti wybod sut i wneud coffi ar gyfer pobl bwysig! A cofia fod pobl bwysig sy'n dod i swyddfa yn perthyn i haen uwch yn y gymdeithas na thi a mi. Rhaid i ti hefyd wybod sut mae pawb yn y swyddfa licio eu coffi:
Jen: te peppermint gwan mewn mwg tennau, Bryn: te mefus a mêl mewn mwg sy'n deud 'World's Best Lover', Jamain: te lemon a gadael y teabag i mewn am dri munud"

Ond rhaid i'r hyfforddiant yn dod i ben yn fuan oherwydd ein bod yn sylwi nad oes llaeth yn y ffrij. Mae Grahame yn edrych ar y rota, a darganfod mai fy nhro i oedd hi i brynu llaeth gychwyn yr wythnos.

"Ond doeddwn i ddim wedi fy nghyflogi gychwyn yr wythnos! Dydi hyn ddim yn deg!"

"Dim bwys am hynny" meddai Grahame yn flin. "Os mai dy enw di sydd ar y rota, ti sy'n gyfrifol am brynu'r llaeth. Dim esgus. The rota is always right."

"Ond does neb yn yfed coffi...!"

Ond mae hi'n rhy hwyr, mae Grahame wedi gadael. A 'dw i wedi gwneud fy ngelyn cyntaf yn y Swyddfa. Bob Nadolig o rŵan tan ddiwedd amser, bydd y ddau ohonom yn gweddio na chaiff y naill na’r llall ein gilydd yn y Secret Santa.

* * * *

Y diwrnod wedyn dwi wrthi'n polisho'r space bar pan ddaw Jen a'i phen rownd y drws, a gofyn os ydw i eisiau ymuno a nhw mewn cyfarfod.

Cyfarfod! Gwych! I ffwrdd a mi i'r cwpwrdd stationary i arfogi fy hun. 'Dw i'n teimlo fel 'mod i wedi ffeindio stash Barti Ddu. Mae yma ddau focs Quality Streets yn llawn paper clips, wedi ei labelu yn daclus mewn print. Mae yma ddigon o blue tac i chwarae practical joke ar raddfa enfawr, a sticio'r dodrefn i'r to; mae yma ddigon o staplers a staples i daclo Ysbyddaden Bencawr, a digon o sisyrnau i agor siop farbwr. Mae yma feiros ar gyfer pobl llaw dde, a beiros ar gyfer pobl llaw chwith, a beiros ar gyfer pobl heb law o gwbwl. Mae'r selotêps amrywiol fel cylchoedd Sadwrn, ac mae digon o highlighters i liwio'r 1980's unwaith eto.

'Dw i'n eistedd o amgylch y bwrdd hefo deg arall a derbyn agenda. Mae my mhocedi yn llawn post-it notes melyn llachar a phinau bawd, ac mae gen i epill deudwll i lawr fy siwmper. Sylwa'r cadeirydd fod Malcom ar goll. Coda'r ffôn a deialu rhif yr Head Office.

"Helo, Malcom? Ti'n dod i'r cyfarfod? Be? Ti'n rhy brysur? Ond ti heb yrru ymddiheuriad...Iawn, ie...nei di yrru ymddiheuriad swyddogol draw dros ebost plis?"

Caiff y cyfarfod ei ohirio am ddeg munud wrth i'r Cadeirydd ail sgwennu'r agenda i gynnwys Malcom dan y pendawd Ymddiheuriadau. 'Dw i'n rhedeg draw at fy nesg i gael swig o gin ac i fwydo'r tortois yn y filing cabinet.

O'r diwedd, mae'r cyfarfod yn cychwyn. Mae hanner awr cyntaf y cyfarfod yn cynnwys trafod y cyfarfod diwethaf, sef cyfarfod a gynhaliwyd i drefnu pryd y gellid trefnu'r cyfarfod yma. Mae hanner awr ola'r cyfarfod yn cynnwys trafod pryd y gellid trefnu'r cyfarfod nesaf. Edrychaf yn fy nyddiadur - sy'n wag ar hyn o bryd, felly mae'r drafodaeth yn ddiflas - mae fel gwneud jig-so un darn.

Mae fy mhrofiad cyntaf o gyfarfod yn ddiflas iawn. 'Dw i'n penderfynu mynd i wneud paned i godi fy nghalon. Ond mae hynny'n profi'n anodd iawn, dwi wedi anghofio'r côd i fynd drwy'r drws, ac mae theme tune The A-Team yn dod i mhen i bob tro 'dw i'n ceisio cofio fy jingle. O'r diwedd ar ôl hanner awr o ganu digyfeiriad, 'dwi'n llwyddo i agor y drws. Ond siom enfawr sy'n fy nisgwyl - does 'na'm llaeth.

O plîs Alan Sugar, sgen ti job i fi?

25/01/2011

Ar y Meic


So dwi'n canslo fy holl gynlluniau, er mwyn mynd i gig olaf Meic Stevens, a hynny yn Llanrwst. Mae Meic yn gadael gwlad y gân, yn rhoi ei gitâr yn y to, ac yn ymfudo i Ganada i briodi.

Wythnos yn ddiweddarach a 'dw i'n gorfod gwrthod shiffts gwerthfawr yn y dafarn leol i fynd i weld gig olaf un Meic Stevens... yng Nghaerdydd.

Fis yn ddiweddarach, a dwi fod adre yn dathlu'r Nadolig, ond dwi'n penderfynu dreifio 100 milltir i Gaerfyrddin i weld gig olaf arall Meic Stevens.

Mae o on form go iawn. Mae o'n wych. Mae o'n canu ei holl glasuron. Mae o'n chwerthin, mae o'n anghofio ei eiriau, mae o'n insultio Huw Ceredig. Dwi mor falch mod i wedi gneud cymaint o ymdrech i weld gig olaf un Meic Stevens. Mi alla i ddeud wrth blant fy mhlant fy mod i yno, a fod gen i lun i brofi'r peth.

Hwyl fawr 'rhen arwr.

Dwi'n gweithio yn y dafarn leol. Dwi'n cael neges destun ar fy ffôn lôn yn gofyn lle ydw i. Mae'r negeswr ym Mhwllheli - yn gig olaf Meic Stevens. Go iawn y tro yma.

------------

Mae misoedd wedi pasio bellach, mae 'rhen Meic yn bownd o fod yng Nghanada erbyn hyn?

Dwi dal yn ddi-waith. Dwi'n penderfynu cychwyn tribute act i Meic Stevens.

Dwi'n hysbysebu fy hun fel dynwaredwr. Dwi'n gwneud posteri, ac yn eu sticio i goed hefo pinnau bawd.

O fewn wythnos, mae gen booking.

Dwi'n cadarnhau - gan ofyn am daliad o flaen llaw. Am y tro cyntaf ers erioed, mae gen i bres yn y banc, grêt.

Mae noson y gig yn cyrraedd, a dydw i ddim yn mynd. Mae'r trefnwr yn wyllt gacwn. Ond dwi'n esbonio fy mod i yn trio cadw'r act mor debyg â phosib at y gwreiddiol, ac felly mod i ddim yn gallu sicrhau fy mod i am droi fyny i bob un gig. Mae'r trefnwr yn dal i fod yn flin, ond all o ddim gwneud dim byd am y peth. Mae o'n gwybod mai fi sydd yn iawn.

Yr ail gig, dwi'n penderfynu mynd. Dwi'n mynd a'm sbectols haul a'm potel o win hefo fi. Dwi'n sefyll o flaen y gynulleidfa hefo hen gitar yn rhegi ar y dyn sain. Mae o'n taflu glas peint at fy mhen. Dwi'n dycio. Dwi'n sylwi mai nid dyn sain ydio - dwi'n chwarae gig acwstic, a dwi heb blygio'r gitâr mewn i ddim byd. Old habits die hard. Dwi'n camdreiglo fy ffordd drwy dameidiau o ganeuon gwych. Dwi'n cael llond bol a mynd adre cyn diwedd y set.

Dwi'n cael gwahoddiad i chwarae yn gig nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod ym Maes B. Mae nhw'n deud mod i ddim yn headlinio. Dwi'n gandryll. Sut ar wyneb y ddaear all unrhyw un chwarae ar ôl Meic Stevens? "Dim Meic Stevens wyt ti", medde nhw. Nage...? Erbyn hyn dwi wedi cychwyn gwisgo'r wig brith i ngwely, a gwisgo sbectols haul hyd yn oed yn y nos.

Dwi'n cael strancs, a gwrthod chwarae hyd nes iddyn nhw fy ngadael i i headlinio. Mae nhw'n deud fod ganddyn nhw rhywun gwell a phwysicach i headlinio'r noson.
"Pwy?" medde fi yn gandryll.
"Allwn ni ddim dweud" meddw nhw. "Mae o'n sypreis."
Y blydi Moniars fyddan nhw, bownd o fod. Neu Huw Chiswell.
Ond ar ôl bod yn styfnig am ychydig ddyddiau dwi'n rhoi give up. Dwi angen y pres. Dwi'n cytuno i chwarae ym Maes B.

Maes B. Nos Sadwrn. Mae Gwibdaith Hen Frân newydd orffen canu am eu wilis.

Dwi'n camu ar y llwyfan. Dwi'n canu. Dwi'n swnio fel Meic Stevens. Dwi'n dda. Dwi'n gwneud ymdrech i blesio'r gynulleidfa. Erbyn y diwedd, dwi'n dechrau teimlo fel mai fi ydi Meic Stevens. Mae'r gynulleidfa yn ymateb yn dda. Yn gweiddi "Bobby Sands! Merch o'r Ffatri Wlan!" Dwi'n eu hanwybyddu nhw.Dwi'n insultio Huw Ceredig, am laff. Dwi'n gorffen y set.

Dwi'n aros yn eiddgar i weld pwy ar wyneb y ddaear allai fod headlinio ar ôl y sioe wych 'dw i newydd ei rhoi i'r dorf. Mae'r golau yn mynd i lawr, mae ffigwr bychan yn cerdded yn fusgrell ar y llwyfan. Mae'r dorf yn mynd yn boncyrs. Dwi erioed wedi clywed y ffasiwn gymeradwyaeth i neb. Dwi'n craffu drwy'r tywyllwch, ac mae'r golau yn codi...
MEIC STEVENS ydio! Myn cacen i, RO'N I'N MEDDWL DY FOD DI YNG NGHANADA!