24/11/2011

Naw tan Bump

So 'dw i'n cymryd job mewn Swyddfa. 'Mae'r holl hwrio entrepreneuraidd, a'r oriau ansefydlog dros yr wythnosau diwetha yn golygu nad oes gen i fywyd cymdeithasol. Doedd gen i'm bywyd cymdeithasol cyn hynny chwaith, ond stori arall ydi honno.

Mae gan y swyddfa yma bob dim, photocopiwr, peiriant dŵr, planhigion, Blue Tack. ‘Dw i’n cael fy ngoriad fy hun, a rhif y larwm ar ddarn bach o bapur wedi ei argraffu a’i lamineiddio.

“Mae’n rhaid i ti daflu’r rhif ar ôl ei ddysgu, rhag ofn…”

“Rhag ofn be?”

“Ymm, identity fraud?”

‘Dw i’n dyfeisio jingle bach yn fy mhen i gofio’r côd diogelwch, ond mae’r gân yn gorffen ychydig yn fyr, achos dim ond dau rif ydi’r côd. 'Dw i'n gwario punt ar y meter lectrig i shreddio'r côd diogelwch. Ond mae gwastraffu mewn swyddfa yn OK. 'Dw i'n cael torri siâp sgwâr o ganol darn carbod lliwgar, a ddim yn gorfod cychwyn o'r ochrau. Heb i mi sylwi, mae criw o gyd-naw tan bumpwyr wedi casglu o nghwmpas i yn fy ngwylio fi'n torri'r sgwâr. Dwi'n gorffen, ac mae pawb yn clapio.

"Hwre! Un creadigol ydi hon, hwre i'r sgŵar lliwgar! Hwre i wastraffu carbod!"

Dyma eistedd wrth fy nesg i edmygu’r olygfa: desgiau pawb arall. Dwi'n agor yr holl ddroriau gwag o 'nghwmpas, mae yma gymaint o botensial. Mi allwn i wastraffu mwy o bapur drwy argraffu fy ngwaith, a'u storio nhw - yn alphabetical, neu eu grŵpio fesul lliw. Neu mi allwn i guddo potel o gin yma, neu bar o Snikers - mae hyd'noed digon o le yn y filing cabinet yma i anifail anwes, os nad hyd yn oed lle am nap ar brynhawn ddydd Gwener.

Mae'r ffôn yn canu,

"Helo. Head Office yn siarad. Dim ond ffonio i roi gwybod ein bod ni wedi gyrru ebost."

'Dw i'n checkio fy ebyst yn gyffro i gyd. 1 New Message gan Head Office:

Dyma neges i ofyn yn garedig i ti ffonio'r Head Office.

'Dw i'n ffonio'r Head Office.

"Helo Head Office"

"Helô, dyma fi'n ateb yr ebost yn gofyn i mi ffonio...?"

"O helô, diolch am ffonio. Dim ond eisiau gofyn yn garedig i ti yrru ebost i'r Head Office i ni gael gwneud yn siŵr fod fod dy ebost di'n gweithio."

'Dw i'n confiwsd ofnadwy, ac yn penderfynu mynd am nap yn y filing cabinet.

* * * *

Mae'r diwrnod canlynol yn cael ei glustnodi fel diwrnod hyfforddi gwneud coffi. 'Dw i'n mentro sôn yn gwrtais fy mod eisoes yn gwybod sut i wneud coffi.

"Ond mae gwneud coffi mewn Swyddfa yn wahanol! Rhaid i ti wybod sut i wneud coffi ar gyfer pobl bwysig! A cofia fod pobl bwysig sy'n dod i swyddfa yn perthyn i haen uwch yn y gymdeithas na thi a mi. Rhaid i ti hefyd wybod sut mae pawb yn y swyddfa licio eu coffi:
Jen: te peppermint gwan mewn mwg tennau, Bryn: te mefus a mêl mewn mwg sy'n deud 'World's Best Lover', Jamain: te lemon a gadael y teabag i mewn am dri munud"

Ond rhaid i'r hyfforddiant yn dod i ben yn fuan oherwydd ein bod yn sylwi nad oes llaeth yn y ffrij. Mae Grahame yn edrych ar y rota, a darganfod mai fy nhro i oedd hi i brynu llaeth gychwyn yr wythnos.

"Ond doeddwn i ddim wedi fy nghyflogi gychwyn yr wythnos! Dydi hyn ddim yn deg!"

"Dim bwys am hynny" meddai Grahame yn flin. "Os mai dy enw di sydd ar y rota, ti sy'n gyfrifol am brynu'r llaeth. Dim esgus. The rota is always right."

"Ond does neb yn yfed coffi...!"

Ond mae hi'n rhy hwyr, mae Grahame wedi gadael. A 'dw i wedi gwneud fy ngelyn cyntaf yn y Swyddfa. Bob Nadolig o rŵan tan ddiwedd amser, bydd y ddau ohonom yn gweddio na chaiff y naill na’r llall ein gilydd yn y Secret Santa.

* * * *

Y diwrnod wedyn dwi wrthi'n polisho'r space bar pan ddaw Jen a'i phen rownd y drws, a gofyn os ydw i eisiau ymuno a nhw mewn cyfarfod.

Cyfarfod! Gwych! I ffwrdd a mi i'r cwpwrdd stationary i arfogi fy hun. 'Dw i'n teimlo fel 'mod i wedi ffeindio stash Barti Ddu. Mae yma ddau focs Quality Streets yn llawn paper clips, wedi ei labelu yn daclus mewn print. Mae yma ddigon o blue tac i chwarae practical joke ar raddfa enfawr, a sticio'r dodrefn i'r to; mae yma ddigon o staplers a staples i daclo Ysbyddaden Bencawr, a digon o sisyrnau i agor siop farbwr. Mae yma feiros ar gyfer pobl llaw dde, a beiros ar gyfer pobl llaw chwith, a beiros ar gyfer pobl heb law o gwbwl. Mae'r selotêps amrywiol fel cylchoedd Sadwrn, ac mae digon o highlighters i liwio'r 1980's unwaith eto.

'Dw i'n eistedd o amgylch y bwrdd hefo deg arall a derbyn agenda. Mae my mhocedi yn llawn post-it notes melyn llachar a phinau bawd, ac mae gen i epill deudwll i lawr fy siwmper. Sylwa'r cadeirydd fod Malcom ar goll. Coda'r ffôn a deialu rhif yr Head Office.

"Helo, Malcom? Ti'n dod i'r cyfarfod? Be? Ti'n rhy brysur? Ond ti heb yrru ymddiheuriad...Iawn, ie...nei di yrru ymddiheuriad swyddogol draw dros ebost plis?"

Caiff y cyfarfod ei ohirio am ddeg munud wrth i'r Cadeirydd ail sgwennu'r agenda i gynnwys Malcom dan y pendawd Ymddiheuriadau. 'Dw i'n rhedeg draw at fy nesg i gael swig o gin ac i fwydo'r tortois yn y filing cabinet.

O'r diwedd, mae'r cyfarfod yn cychwyn. Mae hanner awr cyntaf y cyfarfod yn cynnwys trafod y cyfarfod diwethaf, sef cyfarfod a gynhaliwyd i drefnu pryd y gellid trefnu'r cyfarfod yma. Mae hanner awr ola'r cyfarfod yn cynnwys trafod pryd y gellid trefnu'r cyfarfod nesaf. Edrychaf yn fy nyddiadur - sy'n wag ar hyn o bryd, felly mae'r drafodaeth yn ddiflas - mae fel gwneud jig-so un darn.

Mae fy mhrofiad cyntaf o gyfarfod yn ddiflas iawn. 'Dw i'n penderfynu mynd i wneud paned i godi fy nghalon. Ond mae hynny'n profi'n anodd iawn, dwi wedi anghofio'r côd i fynd drwy'r drws, ac mae theme tune The A-Team yn dod i mhen i bob tro 'dw i'n ceisio cofio fy jingle. O'r diwedd ar ôl hanner awr o ganu digyfeiriad, 'dwi'n llwyddo i agor y drws. Ond siom enfawr sy'n fy nisgwyl - does 'na'm llaeth.

O plîs Alan Sugar, sgen ti job i fi?

No comments:

Post a Comment