13/01/2014

Radio Crymi



Mae Betsan Powys yn mynd dros ben llestri ac yn rhoi'r sac i bob cyflwynydd ar Radio Cymru heblaw Ifan Evans, sy'n cael y job o gyflwyno bob dim. Mae'n cael trafferth braidd. Mae'n apelio ar Betsan i gyflogi rhywun newydd i'w helpu, gan nad ydio wedi bod yn y toiled ers pythefnos. Dwi'n clywed yr apêl hon yn fyw ar yr awyr, ynghanol rhaglen Gerallt Lloyd Ifan Evans, gan nad ydi o wedi gallu cymryd brêc o'i waith i fynd i ofyn i Betsan mewn rhywle preifat.

Dwi'n sgwennu cais i'r orsaf radio am swydd, yn dyfeisio enw sy'n cyflythrennu, ac yn mynd ati i chwilio am bartner i gyflwyno sioe chwyldroadol deugyflwynwr cynarforeuol rhagorol. Dwi'n dyfeisio a chasglu llwyth o ansoddeiriau hollwych i roi yn fy nghais, a taflu'r rhai sydd gen i dros ben mewn i flogbost gwirion am rhywun sy'n methu dod o hyd i job.

Dwi'n dod o hyd i bartner i gyflwyno. Dwi'n ei dewis ar sail ynganiad ei "U". Mae ganddi "U" berffaith, efallai hyd yn oes mai hi ddyfeisiodd y lythyren "U". Mae ei "U" yn bedolau i gyd. Dwi'n cael rhaglen ddwyawr o hyd. Mae Ifan Evans wrth ei fodd, mae'n cael hoe o'r diwedd i edrych ar ei Snapchats.

Mae fy nghyd-gyflwynwraig yn dod i'r stiwdio ar fore cyntaf ein sioe newydd, ond dydi hi ddim yn edrych dim byd tebyg i'r hyn yr oedd hi'n edrych ddoe... Mae hyn yn parhau am wythnos gyfan. Bob bore mae hi'n edrych fel cymeriad gwahanol, yr unig ffordd 'dw i'n gwybod mai hi ydi hi ydi oherwydd ei "UUUU"s.

"Wyt ti'n gwneud hyn i guddio rhag Betsan Powys?" 'dw i'n gofyn.
"Yndw, ers blynyddoedd" meddai hi. Mae hyn yn esbonio lot.

Mae'r rhaglen gyntaf yn mynd yn o lew. 'Dw i'n chwarae'r 5 CD sydd wedi eu gadael yn y peiriant ers y sioe foreuol arferai fod, cyn Y Cyfnod Evansaidd. Mae nhw'n ganeuon fformiwläig gan artistiaid sydd erioed wedi chwarae'n fyw yn eu bywydau, ac sy'n canu'n Lanaethwyaidd i gerddoriaeth cefndirol sy'n cael ei chwarae gan robots. Mae hyn yn ok - mae'n ddiogel. Dydio ddim am wneud ein gwrandawyr yn flin, does neb am losgi eu tafodau ar eu uwd boreuol tra mod i ar ddyletswydd. O nagoes.

"UUUUUWD" mae fy nghyd-gyflwynwraig yn gweiddi. Mae ias o bleser yn llithro i lawr fy asgwrn cefn, mae ei "u" fel balm.



'Da ni'n cymryd gambl, a chwarae Mr Huw. Mae'r ffôns yn dechrau canu - o na. Dwi'n sbio drwy ffenestr fach y stiwdio - a pwy sy'n ateb y ffôns, ond neb llai nag Ifan Evans. Mae o'n rwdlian rŵan, dio'm di cysgu ers dau fis a hanner.

"Mr Huw? Nage wir, Mr Evans Ifans sydd 'ma. Gyrrwch snapchat!"

O diar, dwi'n mynd allan i reslo'r ffôn gan Ifan, ac i ymddiheuro wrth Mrs Jones.

"Be? Nage dim am hynny mae'r gan, Mrs Jones. Ych a fi. Nage siŵr. Ewch i olchi eich ceg hefo sebon, a pheidiwch galw eto."

Dwi'n amneidio ar fy mhartner drwy'r ffenestr i ddiffodd 'Gwyneb Dod' gan Mr Huw, ond does dim angen, mae hi eisoes wedi ei ddiffodd, ac wrthi'n canu carioci i un o'i chaneuon ei hun ar dop ei llais, a hynny hefo clamp o gacen fawr yn ei llaw.

"OOO be ti'n neuuuuud?" dwi'n gweiddi. Fy uuuus ddim hanner gystal â'i rhai hi.

"Cael cacen a rêf de!" mai'n ateb.

"Ond alli di'm cael rêf efo cân felna, siŵr! A dydi'r gwrandawyr adre ddim yn gallu gweld y cacen, heb sôn am rannu ei blas. Mae hyn yn radio hunanol iawn!"

"Sori!" meddai fy mhartner, yn ddagreuol. Dwi'n treulio'r deg munud nesaf yn ei pherswadio nad Betsan Powys mewn gwisg ffansi ydw i, ac nad ydw i am ei diswyddo. Mae hi'n cyhoeddi ei bod hi'n "Ddydd Llun Sori" swyddogol ar y radio o hyn allan bob dydd Llun, i ymddiheuro i mi yn iawn am gael syniad mor wirion.

Mae'r ffôn yn dechrau canu eto, dwi'n ei hateb, Ifan Evans sydd yna isho rhoi "Sori" i Evan Ifans yn fyw ar y radio ar Ddydd Llun Sori am beidio ag ateb ei Snapchat.

Mae'r ffôn yn canu eto, Mrs Jones sydd yna. Mae hi wedi cael pysgodyn aur newydd ai alw yn Cadi Mai Awel Fflur Lili Jên Ciwti Pai. Dwi'n deuthi fy mod eisoes wedi deuthi unwaith nad oes croeso iddi hi i ffonio'r orsaf barchus yma ar ôl be ddudodd hi am lyrics Mr Huw. Ond mae fy nghyd-gyflwynwraig yn clywed yr alwad, ac yn penderfynu penodi artist cudd i gyfansoddi cân i ddathlu enwau deusill anifeiliaid anwes pobl Cymruuuuuuuu.

Mae Betsan Powys yn galw heibio ar gyfer ail hanner y rhaglen i weld os ydi popeth yn mynd yn iawn.
"Lle mae Ifan...? o dacw fo" mae hi'n cychwyn gofyn, ac yn edrych draw tuag at fy nghyd-gyflwynwraig, sydd wedi morffio i mewn i Ifan Evans. "Duma Fu yn fuma, Butsan" meddai hi, yn llwyddiannus.

Deni'n treulio gweddill y rhaglen yn trafod rygbi.

Yn sydyn mae cnoc ar y drws. Dwi'n gweiddi -

"Ifan, ti sydd yna? Nage? Betsan? Nage? Does na'm mwy o gymeriadau ar ôl yn y stori 'ma, pwy sy'n curo ar y drws?"

Mae fy nghyd-gyflwynwraig yn gwenu, "Artist cudd cân anifeiliaid Cymru, de?"

Dwi'n agor y drws, a pwy sy'n sefyll yna ond... myn cacen jocled i - JONSI!

O BBC Radio Cymru, sgen ti job i mi?





1 comment: