30/11/2010

Pobol y Cwm, ŵ, glei, sbo.

Felly, diwrnod cynta yn sgriptio Pobol y Cwm. Y peth cynta dwi'n neud ydi tynnu'r camsillafiad o'r teitl. Mae Pobol y Cwm yn newid i Pobl y Cwm.

Mae Cymru'n mynd yn wyllt. Ma hyn yn waeth na sgandal Jonsi. Dydi ffôn Taro'r Post erioed wedi bod mor boeth. Mae Golwg yn gorfod sgrapio colofn Hywel Gwynfryn i neud lle i fwy o lythyrau. Mae'r llythyrau yn honi fy mod wedi dwyn darn bach o hunaniaeth Cymru drwy ddwyn y lythyren 'o' o Pobl y Cwm.

Dwi'n ymateb drwy ysgrifennu llythyr cyhoeddus, sy'n cynnwys dim ond y lythyren O, mewn llythyren fras, yn bold, ac mewn font comic sans. Mae pobl sydd ag amser i gysylltu â Taro'r Post ac ysgrifennu llythyrau i Golwg yn licio Comic Sans. Mae o yn neud iddyn nhw deimlo'n hapus.

----------

Pennod Gyntaf o'r Pobl y Cwm newydd:

Mae'r Siop ar gau. Mae hi'n brynhawn dydd Mercher. Mae pob siop gefn gwlad ar gau ar brynhawn dydd Mercher.
Mae'r Deri ar gau. Mae hi'n aeaf. Mae tafarndau cefn gwlad ar gau ar brynhawniau yn y gaeaf.
Mae pawb yn gweithio. Does neb ar y stryd.
Ond mae'r fferyllfa, er nad yw'n bosib i fferyllfa wneud busnes mewn pentref o ddim ond 40 o gymeriadau, AR AGOR! Y rheswm am hyn yw fod Denzil wedi troi yn crack-head, ac mae o wedi mynd i'r fferyllfa am gyngor.

Fferyllydd - Denzil ŵ, ma'n raid i chi ddeall gwdboi mod i wedi rhoi digon o fethadone i ladd eliffant mawr i chi, glei. So fi'n galler rhoi mwy, sbo. Ma'n rhaid i chi fynd am y plunge, mynd yn cold turkey 'chan.

Denzil - [mae Denzil yn edrych yn sâl. Tew, ond sâl. Mae o'n tagu ac yn welw.] Twrci Oer? Ma 'da ni rai organig fyny ym Mhenrhewl ŵ, glei, sbo. Neith hwnnw'r tro?


Sylwaf yn syth nad yw Denzil wedi arfer actio'r prif rôl, mae'n fwy cyffyrddus yn sefyll tu allan ei siop yn cael ei fwlio gan Anti Marian. Neith hyn mo'r tro. Dwi'n penderfynu cyflogi Steve McFadden i actio rhan Denzil, dros dro.

Mae llythyrau yn Golwg yn cwyno fod yr actor newydd yn edrych yn rhy fygythiol, ac y dylid symud Pobl y Cwm i ar ôl y watershed.

Pennod 2 o'r Pobl y Cwm newydd.

Bellach, mae teulu Penrhewl yn berchen ar y Deri. Mae Anti Marian wedi lliwio ei gwallt yn felyn, ac yn gwisgo sgert fini ledr a sgidie 5-inchars. Mae hi'n ymdebygu i efaill Sioned Penrhewl, sydd hefyd yn gweithio tu ôl i'r bar. Mae Denzil yn cerdded i mewn.

Anti Marian - Denzil! Rwyt ti'n gaeth i gyffuriau, ŵ! DOS MAS O FY NHAFARN,DOS MAS DOS MAS DOS MAAAAAS!

Denzil - What the bleedin 'ell is the old bat shouting about? I only came ere for a quick pint.


Newid golygfa yn sydyn i Denzil yn rhoi bocs crisps ar dân. Mae'r Deri yn mynd ar dân. Mae Denzil yn llewygu. Mae Eileen i fyny'r staer hefo babi bach. Mae Dic Deryn yn ymddangos o rhywle, yn darganfod ysgol hir, yn dringo'r ysgol, yn achub Eileen, ac mae Eileen yn dweud wrth Dic Deryn mai ei fabi o ydi'r babi yn ei breichiau, a'i fod mewn gwirionedd newydd achub bywyd ei ferch.
Mae Dic Deryn yn deud wrthi beidio bod mor blydi stiwpid, ac nad ydio wedi ei gweld hi ers naw mlynedd.

Mae cast cyfan Pobl y Cwm yn gorfod rhedeg mewn i'r Deri i achub Denzil, a'i gario i ddiogelwch.

Denzil - You Welsh bas***ds are crazy, you invite me for a pint and set the bleedin pub on fire.

Y DIWEDD

Mae'r golygydd yn penderfynu fod y Pobl y Cwm newydd yn ok, jyst ychydig yn rhy debyg i Eastenders.


O plis Pobol y Cwm, sgen ti job i fi?

4 comments:

  1. Dwi'n sôôôô gwylio'r pobl y cwm newydd 'ma

    ReplyDelete
  2. Sdim Colofn Gwynfryn di bod yn Golwg ers misoedd! Get with the times Lily Lwyd...

    ReplyDelete
  3. Ah rwan dw i'n sylwi fod hwn wedi ei sgwennu flwyddyn yn ol. I'll let myself out...

    ReplyDelete
  4. Jyst dala lan 'da'r blog 'ma. Wi'n lico hwn! Pobl y Cwm - dw i wedi meddwl am hwnna ers achau 'fyd.

    ReplyDelete