20/02/2012

Ribidirês


So gesh i lond bol ar weithio mewn swyddfa. Hynny a'r ffaith mod i wedi cael y sac ar ôl sticio'n llaw i'r ffôn hefo gwn glud.

So dwi di penderfynu mynd ar drywydd cwbl wahanol, a bagio job yn Sŵ Bae Colwyn. Popeth yn dda. Popeth yn dda hynny yw nes i mi sathru ar ben morlo. Damwain oedd hi - sathriad ar gam. Ond ma'r morlo yn iawn, wel mae o'n olew. Ma'n udo am chydig, ac mae ei ben chydig yn fflatiach na'r arfer, ond mae popeth yn dda. Dwi'n teimlo'n euog am sathru ar ben y morlo am awr dda - 'dwi'n teimlo fel y tro nes i flocio toilet y swyddfa unwaith wrth drio wastio mwy o garbod.

Fel trît bach i'r morlo, dwi'n dod o hyd i lond lle o bysgod yn wledd i'r creadur penfflat. Pysgodyn glas. Pysgodyn sy'n goleuo yn y tywyllwch. Nemo.

"Sori forlo bach" medde fi fesul tafliad pysgodyn.

"Craaaaawc" medde'r morlo.

-------------------

'Dw i'n penderfynu gadael creaduriaid y dŵr i edrych ar ôl eu hunain, ac yn crwydro draw at y Betting Farm. Dwi'n pwyso ar y ffens bren yn disgwyl i'r mulod gychwyn rhedeg.

"Dwi'n betio £10 ar y mul gwyn" 'dw i'n gweiddi.

Mae un dyn yn gafael yn ei blentyn ac yn gadael. Mae'n rhoi golwg frwnt i mi. Allai'm dallt pam.

Dwi di gweld mwy o symud mewn ceffylau plastic mewn arcade. Dwi'n taflu moronen at y mul i roi gidiyp i'r bwystfil, ac mae o'n brefu. Dwi'n edrych yn fanylach a sylwi nad mul ydio, ond dafad fawr.

------------

Mae'n rhaid i mi gerdded hanner milltir allan o fy ffordd rownd y Sŵ yn wrth-glocwedd i osgoi'r geifr. Mae edrychiad geifr yn codi arswyd arna i.

Dwi'n cyrraedd yr eliffantod o'r diwedd. Mae nhw'n bwyta orenau'n gyfa, yn eu cachu'n gyfa, ac yn eu bwyta unwaith eto.

"Clyfar iawn" medde fi yn llawn edmygedd.

Dwi'n chwilio am rhen Robbie Pattinson. I fod yn gwbwl onest, dyna pan dries i am job yma yn lle cynta. Ond does dim golwg ohono fo'n unlle.

Mae llais yn dod dros yr uchelseinydd,

"Due to unforeseeable circumstances the aquarium will be closed until further notice. We apologise for any inconvenience."

Dwi'n cadw hanner llygaid allan am Pattsy, ac mae fy Walkie Talkie yn siarad.

"All the fish have disappeared. I repeat, all the fish from the aquarium has disappeared. We're currently looking at the cctv footage for any information."

Gosh am erchyll.

"Roger that" medde fi dros y Walkie Talkie.

----------

'Dw i'n meddwl ella nad y Sŵ ydi'r lle i mi wedi'r cyfan. Quit while you're ahead ac yn y blaen. Felly dwi'n cerdded yr holl ffordd yn ôl, gan osgoi'r geifr.

Dwi'n pasio drych, a Iesu Gwyn, mae 'na olwg arna i. Dwi'n dychryn am fy mywyd. Ddylwn i ddim fod wedi aros am y seithfed peint ola 'na yn y Red Lion neithiwr.

Dwi'n pigo chwain o du ôl fy nglust ac yn eu buta...

O dduw mawr, diolch byth 'dw i'n sylwi mai ffenestr ydi hi ddim drych.

"It's an Orangutan, dear" medde mam wrth ei phlentyn tu ôl i mi.

"Hahaha!" Dwi'n dechre chwerthin dros bob man. Orangutan wir! Mai di cael y gair rong!

"It's a monkey!" dwi'n gweiddi ar y teulu bach sy'n edrych yn syn arna i.

"W! W! W!"

A wedyn dwi'n cofio bo fi bob tro yn cymysgu hwn. Dwi'n syrthio ar fy mai, ac yn ymddiheuro.

"Sorry, sorry - you were right. I got that confused with Tropicana again."

------------

Tua'r allanfa a fi, gan osgoi'r geifr.

Dwi'n taflu fy het sy'n deud Colwyn Bay Zoo. Dwi'n taflu fy nghrys polo sy'n deud Colwyn Bay Zoo. Dwi'n taflu'r band rwber lliwgar ma idiots yn eu gwisgo i ddangos bo nhw wedi cyfrannu pum deg ceiniog i achos da, sy'n deud Colwyn Bay Zoo. Dwi'n taflu fy oriawr sydd hefo wyneb fel crocodeil. Dwi'n taflu fy esgidiau sy'n drewi o biso llewpart. Ond dwi'n cadw'r Walkie Talkie, achos dwi di bod isho un erioed.

Allan a mi, gan basio'r pwll. Mae rhywbeth mawr pen fflat yn arnofio yn llonydd ar wyneb y dŵr.

Os gweli di'n dda Miss Sue Baecolwyn, oes gen ti job i fi?

No comments:

Post a Comment